Dysgu gydol — David Hagendyk

Welsh Fabians
5 min readFeb 12, 2018

--

Mae’n rhestr annhebygol, ond mae gan Rick Astley, Jumanji a’r X-Files i gyd rywbeth yn gyffredin: roeddent i gyd yn boblogaidd iawn yn y 1990au a chawsant ddadeni llwyddiannus flynyddoedd yn ddiweddarach. Ac er mai adfywiad Rick Astley yw’r mwyaf hynod efallai, mae rheswm dros fod yn optimistig y gallai dysgu gydol oes ymuno â’r rhestr honno yn fuan ar ôl cyfnod yn yr anialwch gwleidyddol.

Yn y 1990au roedd hyrwyddwyr gwleidyddiaeth flaengar yn ceisio mynd i’r afael gydag economi byd oedd yn newid yn gyflym a diwedd hen dybiaethau am fywyd gwaith. Ar ddwy ochr yr Iwerydd roedd Tony Blair a Bill Clinton yn cynnig ymateb cydlynus a blaengar i economi byd-eang a diflaniad araf ‘swydd am oes’. Roedd y cyfle i ddysgu ar hyd bywyd, i ailhyfforddi a’r cyfle i addasu i newid yn yr economi newydd yn ganolog i’r gweledigaethau hyn.

Fodd bynnag, ni lwyddodd Llywodraethau Llafur y Deyrnas Unedig ar y pryd erioed i gyflawni eu huchelgeisiau i gyd. Fel y cyfaddefodd y cyn Ysgrifennydd Addysg David Blunkett, nid oeddent yn ddigon eofn wrth gyfateb grym y naratif gyda pholisi a darpariaeth. Yng Nghymru hefyd collwyd yr ymdeimlad o frys a phwysigrwydd am her dysgu gydol oes. Cafodd dewisiadau polisi megis gostwng cyllid ar gyfer dysgu rhan-amser mewn addysg bellach a cholli darpariaeth mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i gyd effaith ar gyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes. Gyda phobl yn wynebu gyrfaoedd lluosog dros fywyd gwaith o hanner can mlynedd a busnesau’n ymaflyd gyda her y bydd traean eu gweithlu dros hanner cant oed yn fuan, mae angen brys am fomentwm newydd i ailgynnau fflam dysgu gydol oes.

Fodd bynnag, mae arwyddion fod gwleidyddiaeth flaengar yn syrthio’n ôl mewn cariad gyda dysgu gydol oes. Mae adroddiadau gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a hefyd yr IPPR yn cydnabod rôl dysgu gydol oes yn y drafodaeth am y newid yn natur gwaith. Fe wnaeth Cymdeithas Fabian, drwy’r Ganolfan Newid Gwaith newydd, gyflwyno’r gwersi y gallai gwneuthurwyr polisi ar draws y Deyrnas Unedig eu dysgu o ymagweddau at ddysgu gydol oes yn yr Almaen, Singapore, Awstralia, Awstria a Ffrainc. Mae’r adroddiad yn cynnig presgripsiwn rhesymol o’r hyn sydd angen iddo newid. Mae’n galonogol iddynt ganfod ei bod yn bosibl gwneud gwelliannau cyflym i gyfraddau cyfranogiad.

Wrth i wleidyddiaeth chwilio am atebion i heriau cymdeithas sy’n heneiddio, dyfodol gwaith, yr her cynhyrchiant, afiechyd, unigrwydd ac anghydraddoldeb, gallai dysgu gydol oes ddal yr allwedd i lwyddiant. Mae maint yr her yn haeddu ymagwedd flaengar ac eofn. Dylai Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru fod yn arwain y ffordd.

Yn gyntaf, mae angen i ni roi’r offer i oedolion maent eu hangen i wneud penderfyniadau gwybodus, personol am eu dysgu. Dylai hyn olygu cyflwyno, efallai fel cynllun peilot dechreuol, gyfrifon dysgu personol i roi’r modd ariannol i unigolyn gyllido’r dysgu sydd fwyaf addas iddynt hwy ac sy’n cynnig cyfleoedd i unigolion a chyflogwyr i atodi cyfrifon. Yn rhyngwladol, mae model SkillsCredit Singapore yn cynnig enghraifft ddefnyddiol i adeiladu model Cymreig arno. Yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith buom yn flaenllaw, ynghyd â’r IPPR, wrth hyrwyddo’r model hwn.

Ynghyd â hyn mae angen brys i gynnig mynediad llawer gwell i gyngor a gwybodaeth ansawdd uchel ar adegau pontio allweddol ym mywydau pobl. Nid yw’r model o ganolbwyntio cyngor gyrfaoedd ar blant oedran ysgol yn unig neu ddim ond ar gyfer unigolion pan fo angen brys yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Mae angen mynediad i gyngor ar yr adegau pontio allweddol ym mywydau pobl: er enghraifft dychwelyd i’r gwaith ar ôl gofalu am berthnasau, cyngor ar newid gyrfaoedd, a sut i drin y cyfnod cyn ymddeol. Dylai edrych ar MOT gyrfa canol-bywyd fod yn un opsiwn blaenllaw ar gyfer rhoi’r dulliau a’r arweiniad i bobl wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

Mae angen newidiadau ehangach i’r system hefyd. Cafodd y sector addysg a sgiliau ei chynllunio i raddau helaeth ar gyfer rhoi’r sgiliau mae pobl eu hangen i fynd i waith. Mae’n llai effeithlon wrth gefnogi pobl mewn gwaith i gael mynediad i ddysgu neu gefnogi’r nifer cynyddol o bobl hunangyflogedig. Dengys tystiolaeth fod tri chwarter y bobl mewn gwaith cyflog isel yn dal yno ddegawd yn ddiweddarach, felly mae cynnig ysgol i bobl i waith mwy boddhaol, ar gyflog gwell yn hanfodol. Gall gwneuthurwyr polisi ddysgu o’r dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio. Er enghraifft, dangosodd gwerthusiad diweddar Dysgu a Gwaith o’r Esgaladur Sgiliau yng Ngorllewin Llundain fanteision cadarnhaol cyllid hyblyg, mynediad i gynghorydd a help gyda chynllun gweithredu unigol i gefnogi pobl allan o gyflog isel.

Mae llymder ariannol yn golygu y bydd cyllido newid yn anodd, yn arbennig pan gaiff yr arbedion a ysgogir o helpu pobl yn ôl i’r gwaith eu dychwelyd i’r Trysorlys ac nid i Lywodraeth Cymru. Mae angen sgwrs go iawn rhwng llywodraethau i ddatblygu dull i sicrhau y caiff peth o’r buddsoddiad hwn ei ddychwelyd ac y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyfleoedd dysgu gydol oes. Dylai addysg oedolion ac addysg yn y gymuned fod yn un ffocws ar gyfer buddsoddi, sef y pwynt ar gyfer i filoedd o bobl yng Nghymru gymryd eu cam cyntaf yn ôl i addysg. Yn aml ef yw’r peth mwyaf hygyrch i oedolion sy’n dysgu ac mae’n paratoi pobl ar gyfer symud ymlaen at ddysgu pellach, i ddychwelyd i’r gwaith a gwella eu hiechyd a’u llesiant.

Mae cydnabod buddion ehangach dysgu gydol oes yn hanfodol hefyd. Dylai Eluned Morgan, sy’n dal i fod yn gymharol newydd yn ei swydd fel gweinidog dysgu gydol oes, gael y briff i weithio ar draws llywodraeth i wella cyfleoedd ar gyfer oedolion sy’n dysgu. O gofio am y dystiolaeth dda am fuddion iechyd a llesiant dysgu, ni ddylai fod yn gyfeiliornus dadlau y byddai dysgu gydol oes yn ddefnydd cadarn, hirdymor o gyllid gwella iechyd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Neu y dylem fod yn gwneud yn well wrth fynd ati i ddarparu llwybrau ar gyfer y miloedd lawer o wirfoddolwyr chwaraeon i gael mynediad i gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau.

Dim ond os gallwn roi oedolion yng nghanol gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil arfaethedig y bydd y newid yma mewn system yn digwydd. Nid oedd y Papur Gwyn diweddar yn amlinellu’r cynigion yn rhoi digon o bwyslais ar addysg oedolion a chadarnhaodd y farn y caiff y system ei chynllunio o amgylch y farn draddodiadol am ddysgwr fel oedolyn ifanc yn symud ymlaen yn gymharol llyfn drwy addysg bellach ac addysg uwch. Ni allwn fforddiio ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol. Dylai cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes fod yn genhadaeth greiddiol i’r comisiwn neywdd.

Gall dysgu gydol oes fod yn stori llwyddiant 2018. Yn union fel nad oedd pobl ifanc heddiw byth yn mynd i roi lan ar Rick Astley, os yw’r llywodraeth a’r sector yn barod i gefnogi newid a hybu’r drafodaeth, mae rheswm am optimistiaeth y gall dysgu gydol oes ymuno â’r rhestr o eiconau o’r 90au a gaiff oes newydd.

--

--

Welsh Fabians
Welsh Fabians

No responses yet